Rydym yn ymroddedig i ddarparu’r safonau uchaf posibl o ran gwasanaeth cwsmeriaid ond yn ymwybodol y gall pethau fynd o chwith weithiau. Os ydych chi’n anhapus neu’n anfodlon ar lefel y gwasanaeth y gwnaethoch ei dderbyn gennym, gadewch i ni wybod. Byddwn yn gwrando arnoch ac yn ceisio datrys pethau yn gyflym ac ar y lefel gywir.
Os nad ydych yn hapus neu os ydych yn anfodlon am eich achos neu’r gwasanaeth a gawsoch, yn aml y ffordd hawsaf a chyflymaf o ddatrys hyn yw siarad â’r unigolyn yr ydych wedi bod yn ymdrin ag ef. Efallai y bydd yn medru delio â’r mater yn y fan a’r lle.
Gyda phob cwyn neu fynegiant o anfodlonrwydd byddwn yn:
- ceisio cywiro pethau
- ceisio datrys y mater yn gynnar
- hyblyg yn ein dull i fodloni eich gofynion
- rhoi pwyslais ar y cwsmer ac yn ymdrin â phob pryder yn brydlon
- agored ac atebol
- defnyddio’r wybodaeth i wella ein gwasanaeth
Bydd y wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddeall y dewisiadau sydd ar gael i chi ac yn esbonio â phwy y dylech gysylltu.
Cwynion, pryderon neu adborth am y gwasanaeth yr ydym wedi ei ddarparu
Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gennym, gallwch gyflwyno eich cwyn i’n Tîm Adborth Ansawdd a Gwella Gwasanaeth.
Nid yw ymdrin â phryderon am y penderfyniadau a wnaed yn eich achos yn rhan o’u rôl (rhoddir rhagor o wybodaeth isod am bryderon am faterion sy’n ymwneud â’ch achos). Byddant yn edrych ar y gwasanaeth a gawsoch gan ein staff.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ceisio ei datrys cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os ydyn ni'n meddwl y gallai gymryd mwy o amser na hyn, byddwn yn cysylltu â chi ac yn esbonio faint o amser y byddwn yn disgwyl i hynny ei gymryd.
Y wybodaeth angenrheidiol
Cyflwynwch eich cwyn yn ysgrifenedig os gwelwch yn dda. Dyma’r ffordd orau o sicrhau ein bod yn derbyn disgrifiad llawn o’r hyn a ddigwyddodd.
Os nad ydych yn gallu cyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig, mae gennym gyfleuster negeseuon ffôn penodol (gweler y manylion cyswllt isod). Os byddwch yn cysylltu â ni trwy gyfrwng y dull hwn, bydd rhywun yn cysylltu â chi i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn. Bydd yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf a faint o amser yr ydym yn disgwyl ei gymryd i ymateb i’ch cwyn. Wrth ddefnyddio’r cyfleuster neges ffôn rhowch yr holl wybodaeth a restrir isod.
Dylai pob cwyn:
- gynnwys eich gwybodaeth gyswllt bersonol – enw, cyfeiriad, rhif ffôn/ffôn symudol a chod post
- gynnwys unrhyw gyfeirnodau sydd wedi eu cynnwys ar lythyrau yr ydym wedi eu hanfon atoch chi
- amlinellu pa aelod/aelodau o’r staff yr ydych yn cwyno amdanynt – os yn berthnasol
- esbonio’n glir pam eich bod yn cwyno ac am beth mae eich cwyn
- gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich cwyn
Manylion cyswllt
Quality and Service Improvement Feedback Team
Independent Office for Police Conduct
PO Box 473
Sale
M33 0BW
Prif switsfwrdd: 0300 020 0096
Gadewch neges llais: 0300 020 0096 (gofynnwch am gael eich cysylltu â pheiriant neges llais Ansawdd a Gwella Gwasanaeth.)
We welcome telephone calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg.
E-bost: feedback@policeconduct.gov.uk
Lawrlwytho ein ffurflen gwyno.
Ein polisïau
Rydym wedi cynhyrchu dau bolisi i ddisgrifio sut i gyflwyno cwyn neu i roi adborth am ein gwaith, a bell allai ddigwydd o ganlyniad i hynny.
Mae ein Polisi Adborth a Chwynion yn esbonio sut i roi eich adborth i ni, rhoi awgrymiadau neu gwyno am ein gwaith. Mae’n nodi sut yr ydym yn ymdrin ag adborth a chwynion am ein gwasanaeth neu ein staff. Mae’r Polisi hwn ar gael yn Gymraeg hefyd.
Mae Polisi Cwynion y Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn esbonio sut yr ydym yn ymdrin â chwynion sy’n ymwneud ag ymddygiad ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol neu gyfarwyddwyr anweithredol. Mae’r Polisi hwn ar gael yn Gymraeg hefyd.
Cwynion neu bryderon am faterion yn ymwneud ag achos
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu fod arnoch angen rhagor o wybodaeth am benderfyniad a wnaed am apêl, adolygiad neu ymchwiliad, cysylltwch â'r unigolyn sy’n ymdrin â’ch achos. Yn aml iawn hon yw’r ffordd rwyddaf o esbonio’r rhesymau am y penderfyniad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dylech gael gwybod, heblaw dan amgylchiadau cyfyngedig, bod ein penderfyniadau apêl, adolygu ac ymchwilio yn derfynol. Mae hyn yn golygu mai dim ond drwy’r broses adolygiad barnwrol y gellir herio a gwyrdroi unrhyw benderfyniad a wnawn ac a gyfathrebwn i’r rhai sy’n ymwneud â’n hachosion. Am y rheswm hwn nid ydym yn derbyn cwynion am ein penderfyniadau ar achosion.
Bydd y wybodaeth ganlynol yn eich helpu i ddeall beth i’w ystyried os nad ydych yn hapus â phenderfyniad yn ymwneud ag achos gan yr IOPC.
Adolygiad barnwrol
Ffordd o herio penderfyniadau a gweithredoedd corff cyhoeddus yw adolygiad barnwrol ar y sail nad yw wedi gweithredu yn gyfreithlon wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Nid apêl yw adolygiad barnwrol ac ni ddylid ei ddefnyddio pan fydd pobl yn anghytuno â phenderfyniad corff cyhoeddus. Mae’n broses gyfreithiol ffurfiol lle gall barnwr archwilio’r penderfyniad sy’n cael ei herio ac ystyried a gadwodd y corff cyhoeddus oedd yn gwneud y penderfyniad hwnnw at y gyfraith yn gywir. Ni all barnwr newid y penderfyniad y mae’r corff cyhoeddus wedi ei wneud. Ond, os bydd yn pennu bod y corff cyhoeddus heb weithredu yn gyfreithlon wrth wneud ei benderfyniad, mae nifer o gamau nesaf posibl. Er enghraifft, gallai’r llys gyhoeddi gorchymyn sy’n gwyrdroi neu sy’n dadwneud y penderfyniad sy’n cael ei herio fel na fydd ganddo unrhyw effaith cyfreithiol, neu orchymyn sy’n atal corff cyhoeddus rhag gwneud penderfyniad anghyfreithlon neu rhag gweithred anghyfreithlon nad yw wedi ei chyflawni eto.
Ar ôl i chi gysylltu â ni, os byddwch yn parhau'n anfodlon â phenderfyniad a wnaed gennym a’ch bod am fynd â phethau ymhellach, gallwch gyflwyno cais i'r llys am adolygiad barnwrol. Ond cofiwch y gall y broses hon gostio arian i chi (e.e. ffioedd llys a chyfreithiol) ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn llwyddo. Dylai ceisiadau am adolygiad barnwrol fel arfer gael eu gwneud yn brydlon, ac yn sicr cyn pen tri mis o wneud y penderfyniad sy’n cael ei herio. Argymhellwn eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych yn ystyried y llwybr hwn.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am adolygiad barnwrol yn:
https://www.gov.uk/government/publications/administrative-court-judicial-review-guide
https://publiclawproject.org.uk/resources/an-introduction-to-judicial-review-2/
Hawl Dioddefwr i Adolygiad
Ar ddiwedd ymchwiliad gan yr IOPC rydym yn cynhyrchu adroddiad sy’n nodi beth ddigwyddodd, pa dystiolaeth mae ein hymchwilwyr wedi ei chanfod a’n dadansoddiad o’r dystiolaeth. Rydym hefyd yn gwneud penderfyniadau:
- a ddylai’r swyddog heddlu/staff dan sylw wynebu unrhyw gamau disgyblu neu gamau i wella ei berfformiad
- a ddylid, dan rai amgylchiadau, atgyfeirio’r materion at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Y CPS sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylid cyhuddo unrhyw un o drosedd.
Mae’r cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad (VRR) yn berthnasol i’r rhan fwyaf o’n hymchwiliadau annibynnol ac a reolir/gyfarwyddir pan fyddwn yn dod o hyd i awgrym y gallai trosedd fod wedi ei chyflawni. Mae’n rhoi hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad os byddwn wedi penderfynu peidio ag atgyfeirio ymchwiliad troseddol at y CPS i wneud penderfyniad cyhuddo. Mae’r cynllun yn berthnasol i benderfyniadau am atgyfeiriadau at y CPS a wnaed ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020.
Rydym yn galw rhywun yn ddioddefwr pan fydd:
- wedi honni ei fod wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd, a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd, neu
- wedi cael rhywun i wneud honiad o’r fath ar ei ran, neu
- wedi cael cyswllt fel dioddefwr yn ystod ymchwiliad gan yr IOPC
Gall dioddefwr hefyd fod yn berthynas agos i unigolyn a fu farw yn ystod neu yn dilyn cyswllt â’r heddlu, pan honnir bod y farwolaeth wedi ei hachosi gan drosedd. Mae ‘perthynas agos’ yn cyfeirio at briod, partner, rhieni, brodyr a chwiorydd neu unrhyw ddibynyddion i’r dioddefwr. Dan rai amgylchiadau gall aelodau eraill o’r teulu, gan gynnwys gwarcheidwaid a gofalwyr, hefyd gael eu hystyried.
Gall ceisiadau am adolygiad gael eu derbyn gan rywun sy’n gweithredu ar ran dioddefwr mewn rhai amgylchiadau. Bydd hyn yn cael ei ystyried o achos i achos, ac efallai y bydd arnom angen cael caniatâd ysgrifenedig gan y dioddefwr.
Os ydych chi’n ddioddefwr a bod y cynllun VRR yn berthnasol i chi, byddwn yn eich hysbysu am eich hawl i ofyn am adolygiad pan fyddwn yn dweud wrthych am ein penderfyniad dros dro i beidio ag atgyfeirio’r achos at y CPS.
Dylai ceisiadau dan y cynllun VRR fel arfer gael eu gwneud cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu o’r penderfyniad uchod. Ond, mae cyfyngiad amser statudol i rai troseddau; mae hyn yn golygu bod rhaid i unigolyn gael ei gyhuddo cyn pen chwe mis o gyflawni’r drosedd honedig. Os bydd cyfyngiad amser cyhuddo yn berthnasol, efallai y byddwn yn gofyn i gais VRR gael ei gyflwyno yn gyflymach. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn wir.
Os gwneir y cais ar ôl y dyddiad cau a nodwyd, byddwn yn gofyn pam bod eich cais yn hwyr. Os oes amgylchiadau eithriadol am yr oedi, efallai y byddwn yn dal i’w ystyried.
Pan wneir cais am VRR, bydd ‘adolygydd’ yn cael ei ddyrannu. Ni fydd yr adolygydd wedi bod ag unrhyw rôl o ran gwneud penderfyniad yn yr ymchwiliad. Pryd bynnag y bydd yn bosibl, ni fydd yr adolygydd yn:
- gweithio yn y swyddfa lle cynhaliwyd yr ymchwiliad
- gweithio yn yr un swyddfa â’r unigolyn a wnaeth y penderfyniad dros dro i beidio ag atgyfeirio at y CPS
Bydd yr adolygydd yn ystyried adroddiad yr ymchwiliad ac yn cael mynediad at y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad. Bydd hefyd yn ystyried pam eich bod yn meddwl y dylid atgyfeirio’r achos at y CPS, ar yr amod eich bod yn cyflwyno eich barn cyn y dyddiad cau perthnasol. Bydd yr adolygydd yn anelu at gynnal yr adolygiad mor gyflym â phosibl a chyn pen 28 diwrnod. Bydd yr amserlen yn fyrrach pan fydd cyfyngiad amser statudol o ran cyhuddo ar gyfer y troseddau dan sylw.
Os bydd yr adolygydd yn pennu y dylai’r penderfyniad dros dro i beidio ag atgyfeirio’r mater at y CPS barhau, yna bydd y penderfyniad dros dro yn cael ei gadarnhau. Fel arall, bydd yn cael ei gyfnewid am benderfyniad newydd o ran a ddylid atgyfeirio at y CPS.
Byddwn yn eich hysbysu am ganlyniad y broses VRR. Ni fyddwch yn gallu gofyn am adolygiad pellach ar ôl i ni roi gwybod i chi am ganlyniad y VRR. Petasech yn dymuno herio penderfyniad yr adolygiad, gallwch wneud cais am adolygiad barnwrol (fe welwch ragor o fanylion am hyn yn yr adran uchod).
Ail-ymchwilio ymchwiliad gan yr IOPC
O Chwefror 2020, mae gan yr IOPC y grym i ofyn am ail-ymchwiliad. Gallwn ddefnyddio’r grym hwn o’r adeg pan fydd adroddiad ar ymchwiliad a gyfarwyddir neu annibynnol i gŵyn, mater ymddygiad cofnodadwy neu fater marwolaeth neu anaf difrifol wedi ei gwblhau a’i anfon at wneuthurwr penderfyniad IOPC iddo/iddi wneud penderfyniadau diwedd ymchwiliad. Mater ymddygiad yw unrhyw fater nad yw neu na fu yn destun cwyn, pan fydd awgrym y gall unigolyn sy’n gwasanaethu’r heddlu fod wedi cyflawni trosedd neu ymddwyn mewn modd a fyddai’n cyfiawnhau camau disgyblu. Mae’r penderfyniadau a wneir ar ddiwedd ymchwiliad yn cynnwys penderfyniadau am atgyfeirio at y CPS, a ddylai unrhyw swyddogion/staff wynebu camau disgyblu, ac ati. Ni all y grym hwn gael ei ddefnyddio i ail-ymchwilio i ymchwiliad lleol neu a reolir.
Dim ond pan fyddwn yn fodlon bod rhesymau cryfion dros wneud hynny y byddwn yn defnyddio’r grym hwn. Er mwyn dod o hyd i resymau cryfion, rhaid i ni fod yn fodlon bod:
- yr ymchwiliad gwreiddiol yn ddiffygiol mewn ffordd a gafodd effaith wirioneddol ar benderfyniadau dilynol am ddisgyblaeth, perfformiad a/neu atgyfeirio at y CPS; a/neu
- bod gwybodaeth newydd arwyddocaol ar gael sy’n gofyn am ymchwiliadau pellach a phosibilrwydd gwirioneddol y byddai’r wybodaeth newydd, petai ar gael, wedi arwain yn gyfan gwbl neu yn rhannol at benderfyniadau gwahanol am ddisgyblaeth, perfformiad a/neu atgyfeirio at y CPS; ac
- ei bod yn angenrheidiol mynnu cael ail-ymchwiliad er budd y cyhoedd.
Pan fydd awgrym y gall ail-ymchwiliad fod yn angenrheidiol, byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol o’r wybodaeth sydd eisoes ar gael i ni.
Mae’r rhestr isod yn disgrifio amgylchiadau a all ysgogi asesiad cychwynnol. Nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysol nac yn gyfarwyddol. Gallwn hefyd benderfynu cynnal asesiad cychwynnol ar unrhyw adeg.
- Gwybodaeth newydd sy’n ymddangos yn berthnasol neu arwyddocaol.
- Ceisiadau gan drydydd parti.
- Casgliadau gwahanol ar y dystiolaeth i’r rhai a wnaed gan y llys neu dribiwnlys (e.e. cwest) sy’n dynodi diffyg perthnasol yn yr ymchwiliad gwreiddiol.
Yn dilyn yr asesiad cychwynnol hwn, byddwn yn pennu a oes angen adolygiad. Bydd angen adolygiad pan fydd gennym reswm i gredu bod yr ymchwiliad gwreiddiol yn ddiffygiol mewn ystyr perthnasol, a/neu fod gwybodaeth newydd arwyddocaol sydd angen ymchwilio ymhellach iddi.
Ni fydd yr adolygiad yn cynnwys nac yn cyfateb i unrhyw ymchwiliad pellach. Bydd yr adolygydd, a fydd yn ddigon annibynnol oddi wrth yr ymchwiliad gwreiddiol, yn ystyried a oes angen ail-ymchwiliad. Bydd y penderfyniad yn seiliedig ar archwiliad o’r ymchwiliad gwreiddiol ac ystyried unrhyw ddiffygion perthnasol honedig neu wybodaeth newydd.
Ar ôl yr adolygiad byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol a fyddwn yn ail-ymchwilio. Bydd hyn yn dibynnu a oes rhesymau cadarn dros wneud hynny. Os penderfynir bod angen ail-ymchwilio, byddwn wedyn yn pennu a fydd yn ymchwiliad annibynnol neu dan gyfarwyddyd.
Os oes gennych wybodaeth y gellid ystyried ei bod yn rheswm cadarn dros ail-ymchwilio i ymchwiliad dan gyfarwyddyd neu annibynnol, dylech ysgrifennu at yr unigolyn sy’n gyfrifol am yr achos. Rhaid i unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig wneud mwy na dim ond anghytuno â chanfyddiadau gwreiddiol yr ymchwiliad. Rhaid i chi amlygu diffygion perthnasol posibl neu dystiolaeth newydd arwyddocaol. Bydd hyn wedyn yn cael ei asesu fel y nodir uchod a’i drosglwyddo i gael adolygiad, os bydd hynny’n addas. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad ein hasesiad ac yn esbonio’r penderfyniad i ail-ymchwilio neu beidio.
Darllenwch ein polisi am y cynllun VRR.
Gwybodaeth am ein cynllun hawl dioddefwr i adolygiad.
Cwynion Rhyddid Gwybodaeth
Os byddwch yn anghytuno â’r modd yr ydym wedi ymdrin â’ch cais Rhyddid Gwybodaeth, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o’r penderfyniad i’r swyddog apeliadau Rhyddid Gwybodaeth. Rhaid i chi wneud hyn cyn pen 40 diwrnod gwaith o’n hysbysiad penderfyniad i chi. Ein nod yw ymateb i'ch cais am adolygiad mewnol cyn pen 20 diwrnod gwaith.
Ysgrifennwch at:
Data Protection Officer
Independent Office for Police Conduct
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
United Kingdom
Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich adolygiad mewnol, mae gennych hawl wedyn i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Canmoliaeth ac adborth
Os hoffech anfon canmoliaeth neu ddarparu adborth ynglŷn â’n staff a/neu'r gwasanaeth yr ydym wedi'i ddarparu, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod neu llenwch ein ffurflen ar-lein.