Cymraeg isod
The Independent Office for Police Conduct (IOPC) today published its annual report on police complaints for England and Wales in 2021/22.
From February 2020, significant changes were made to the complaints system including widening the definition of a complaint to “any dissatisfaction with the police service”. As a result, more complaints will be logged than in previous years.
The system also allows for more complaints to be handled informally, where appropriate, such as by an apology or explanation. A person can request a review if they are unhappy with the way their complaint was handled.
As the new system is still being embedded across police forces, the data should be treated as experimental to acknowledge it is still in the testing phase and comparisons with last year or the years before the system changed should be treated with caution.
A police complaint is an expression of dissatisfaction by a member of the public about the service they have received from a police force. All expressions of dissatisfaction must be logged. Police forces and local policing bodies deal with the majority of complaints. The IOPC sets the standards for complaints handling through its statutory guidance.
The report shows:
Complaints logged and finalised:
- In 2021/22 75,020 complaints were logged - an 11% increase on the total number logged in 2020/21.
- 35,738 of these complaints were recorded formally (a 2% drop from last year).
- Just under a third of complaints (11,459) were recorded formally because the complainant wanted them to be recorded and 11% (4,021) because the complainant was dissatisfied with the initial informal handling.
- Forces took an average of nine working days to contact a complainant after a complaint was made. The averages ranged from one day to 44 working days.
- 71,967 complaints were finalised this year (33,602 formally and 38,365 informally) - a 40% increase on last year. This increase is linked to complaints that were carried over from last year.
Types of complaint:
- Complaints are categorised according to the issues complained about. The largest proportion of complaints relate to “delivery of duties and service” (53%). There has been a 21% rise in these service level complaints. This indicates that the overall increase in complaints is linked to complaints about service delivery, like lack of updates and speed of responses, rather than concerns about police misconduct.
- The next highest proportions were for “police powers, policies and procedures” (20%) and individual behaviours (14%). “Discriminatory behaviours” and “damage to property” both amounted to 3% of the total.
Complainants and those complained about:
- 69,804 people complained about the police of whom 51% of the complainants were men. The most common age group to complain were those aged 30-39 (21%). 51 % of all complainants were White, however the ethnicity of 36% of complainants was unknown.
- 50,559 people serving with the police were subject to a complaint. 63% of those complained about were men and 79% were White. The ethnicity was not known for 14% of those subject to a complaint.
Complaint outcomes (allegations and cases):
- Of the 33,602 complaints handled formally in 2021/22, just under half (48%) had at least one allegation resulting in no further action being taken.
- 68 of those cases had at least one allegation resulting in either a misconduct meeting or hearing, compared to 18 the previous year.
- In over 40% of complaints handled formally, the police provided an explanation (37%) or an apology (5%) to the complainant. 12% of complaints resulted in learning for the police force or individual.
- The most common action resulting from complaints handled informally was an explanation being given to the complainant (48% of complaints). 29% of complaints handled informally resulted in at least one allegation having no further action.
- Learning from reflection or organisational learning accounted for 3% of the outcomes of such complaints while actions such as an apology or a debrief accounted for a further 10%.
- 94% of allegations handled informally were resolved to the satisfaction of the complainant.
Reviews:
- Reviews are handled by the appropriate review body which is either the IOPC or the Local Policing Body. Local policing bodies (LPB) upheld 15% of the 3,894 complaints they reviewed that had not been investigated and 27% (184 out of 689) of those that were investigated.
- The IOPC dealt with 1,096 reviews and upheld 37% of those that had not been investigated and 31% of those that had.
Mae’r IOPC yn cyhoeddi ffigurau ar gwynion heddlu a wnaed yn 2021/22
Heddiw, cyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ei hadroddiad blynyddol ‘Ystadegau Cwynion yr Heddlu’ ar gyfer Lloegr a Chymru 2021/22.
O fis Chwefror 2020, gwnaed newidiadau sylweddol i’r system gwynion gan gynnwys ehangu’r diffiniad o gŵyn i “unrhyw anfodlonrwydd â gwasanaeth yr heddlu”. O ganlyniad, bydd mwy o gwynion yn cael eu cofnodi nag yn y blynyddoedd blaenorol.
Mae'r system hefyd yn caniatáu i fwy o gwynion gael eu trin yn anffurfiol, lle ei fod yn briodol, megis drwy ymddiheuriad neu esboniad. Gall person ofyn am adolygiad os yw'n anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'i gŵyn.
Gan fod y system newydd yn dal i gael ei gwreiddio ar draws heddluoedd, dylid trin y data fel data arbrofol i gydnabod ei fod yn dal yn y cyfnod profi a dylid bod yn ofalus wrth gymharu â llynedd neu'r blynyddoedd cyn i'r system newid.
Mae cwyn heddlu yn fynegiant o anfodlonrwydd gan aelod o'r cyhoedd am y gwasanaeth y maent wedi'i dderbyn gan heddlu. Rhaid cofnodi pob mynegiad o anfodlonrwydd. Heddluoedd a chyrff plismona lleol sy'n delio â mwyafrif y cwynion. Mae’r IOPC yn gosod y safonau ar gyfer ymdrin â chwynion trwy ganllaw statudol.
Mae’r adroddiad yn dangos:
Cwynion wedi’u cofnodi a’u cwblhau:
- Yn 2021/22 cofnodwyd 75,020 o gwynion - cynnydd o 11% ar y cyfanswm a gofnodwyd yn 2020/21.
- Cofnodwyd 35,738 o'r cwynion hyn yn ffurfiol (gostyngiad o 2% ers y llynedd).
- Cofnodwyd ychydig yn llai na thraean y cwynion (11,459) yn ffurfiol oherwydd bod yr achwynydd am iddynt gael eu cofnodi ac 11% (4,021) oherwydd bod yr achwynydd yn anfodlon â'r ymdriniaeth anffurfiol gychwynnol.
- Cymerodd heddluoedd naw diwrnod gwaith ar gyfartaledd i gysylltu ag achwynydd ar ôl i gŵyn gael ei wneud. Roedd y cyfartaleddau yn amrywio o un diwrnod i 44 diwrnod gwaith.
- Cwblhawyd 71,967 o gwynion eleni (33,602 yn ffurfiol a 38,365 yn anffurfiol) - cynnydd o 40% ar llynedd. Mae'r cynnydd hwn yn gysylltiedig â chwynion a gariwyd drosodd o'r llynedd.
Mathau o gwynion:
- Caiff cwynion eu categoreiddio yn ôl y materion y cwynir amdanynt. Mae’r gyfran fwyaf o gwynion yn ymwneud â “chyflawni dyletswyddau a gwasanaeth” (53%). Bu cynnydd o 21% yn y cwynion lefel gwasanaeth hyn. Mae hyn yn dangos bod y cynnydd cyffredinol mewn cwynion yn gysylltiedig â chwynion am ddarparu gwasanaethau, fel diffyg diweddariadau a chyflymder ymatebion, yn hytrach na phryderon am gamymddwyn yr heddlu.
- Roedd y cyfrannau uchaf nesaf ar gyfer “pwerau, polisïau a gweithdrefnau’r heddlu” (20%) ac ymddygiadau unigol (14%). Roedd “ymddygiad gwahaniaethol” a “difrod i eiddo”, y ddau yn 3% o’r cyfanswm.
Achwynwyr a’r rhai y cwynwyd amdanynt:
- Cwynodd 69,804 o bobl am yr heddlu ac roedd 51% o'r achwynwyr yn ddynion. Y grŵp oedran mwyaf cyffredin i gwyno oedd y rhai 30-39 oed (21%). Roedd 51% o'r holl achwynwyr yn Wyn, ond nid oedd ethnigrwydd 36% o'r achwynwyr yn hysbys.
- Roedd 50,559 o bobl oedd yn gwasanaethu gyda'r heddlu yn destun cwyn. Roedd 63% o'r rhai y cwynwyd amdanynt yn ddynion a 79% yn Wyn. Nid oedd yr ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 14% o'r rhai a oedd yn destun cwyn.
Canlyniadau cwynion (honiadau ac achosion):
- O’r 33,602 o gwynion yr ymdriniwyd â nhw’n ffurfiol yn 2021/22, roedd gan ychydig yn llai na hanner (48%) o leiaf un honiad a arweiniodd at beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
- Roedd gan 68 o'r achosion hynny o leiaf un honiad a arweiniodd at naill ai cyfarfod neu wrandawiad camymddwyn, o gymharu âg 18 y flwyddyn flaenorol.
- Mewn dros 40% o gwynion yr ymdriniwyd â nhw yn ffurfiol, rhoddodd yr heddlu esboniad (37%) neu ymddiheuriad (5%) i'r achwynydd. Arweiniodd 12% o gwynion at ddysgu i'r heddlu neu'r unigolyn.
- Y cam mwyaf cyffredin o ganlyniad i gwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol oedd esboniad yn cael ei roi i'r achwynydd (48% o gwynion). Arweiniodd 29% o gwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol at o leiaf un honiad heb unrhyw gamau pellach.
- Roedd dysgu o fyfyrio neu ddysgu sefydliadol yn cyfrif am 3% o ganlyniadau cwynion o’r fath tra bod gweithredoedd fel ymddiheuriad neu ôl-drafodaeth yn cyfrif am 10% pellach.
- Cafodd 94% o'r honiadau a drafodwyd yn anffurfiol eu datrys i foddhad yr achwynydd.
Adolygiadau:
- Ymdrinnir ag adolygiadau gan y corff adolygu priodol sef naill ai'r IOPC neu'r Corff Plismona Lleol. Cadarnhaodd cyrff plismona lleol (LPB) 15% o’r 3,894 o gwynion a adolygwyd ganddynt nad oeddent wedi cael eu hymchwilio a 27% (184 allan o 689) o’r rhai yr ymchwiliwyd iddynt.
- Ymdriniodd yr IOPC â 1,096 o adolygiadau a chadarnhaodd 37% o'r rhai nad oeddent wedi cael eu hymchwilio a 31% o'r rhai a oedd wedi cael eu hymchwilio.