Cyfarwyddwr Cyffredinol – Michael Lockwood
Cyn ymuno â ni, roedd Michael yn Brif Weithredwr Bwrdeistref Harrow yn Llundain gan ddod y Prif Weithredwr Dosbarth cyntaf i fynd yn syth i fod yn Brif Weithredwr Bwrdeistref Llundain. Tra bod Michael yn arwain y llyw yng Nghyngor Harrow, cafwyd gwelliannau aruthrol mewn perfformiad a sefyllfa ariannol. Cafodd hyn ei gydnabod pan enillodd Harrow wobr ‘Cyngor sy'n Cyflawni Orau y Flwyddyn’ yn y Gwobrau MJ.
Yn dilyn digwyddiadau trasig Tŵr Grenfell ym Mehefin 2017, cafodd Michael gais gan Dasglu'r Llywodraeth i arwain ar y gwaith Adfer ac Adferiad, yn ogystal â bod y prif gyswllt gyda’r teuluoedd mewn profedigaeth, goroeswyr a’r gymuned ehangach.
Cyn hyn, roedd Michael yn Brif Weithredwr Cyngor Elmbridge am wyth mlynedd. Fe adawodd Elmbridge fel cyngor wedi ei raddio'n ‘rhagorol’ (yn un o bump uchaf y wlad), wedi ei ddewis y lle gorau i fyw yn Lloegr.
Mae Michael hefyd wedi gweithio i'r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Pholisi Llywodraeth Leol. Fe arweiniodd dîm o arbenigwyr, yn cynghori Gweithgor yr LGA ac yn lobïo Llywodraeth Ganolog ar ystod eang o faterion cyllid a pholisi llywodraeth leol.
Yn gyfrifydd CIPFA cymwys gyda chefndir mewn archwilio a chyfoeth o brofiad ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat, mae Michael wedi gweithio i Lywodraeth ganolog yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac yn y sector preifat yn PricewaterhouseCoopers. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad lefel uwch a Phrif Weithredwr mewn nifer o rolau mewn llywodraeth leol ar draws y wlad.
Julia Mulligan
Wedi gwasanaethu am bron i naw mlynedd fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae Julia yn uwch arweinydd, profiadol yn y sector plismona. Yn dilyn ei phenderfyniad i ymddiswyddo ym mis Mai 2021, mae bellach yn dal nifer o swyddi uwch yn cynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur, sy’n gweithio i amddiffyn gweithwyr bregus y cam-fanteisir arnynt. Mae Julia hefyd yn aelod o Banel Cynghori’r Fonesig Sara Thornton, sy’n darparu cymorth i’r Comisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol.
Gyda diddordeb ers tro mewn cefnogi dioddefwyr, mae Julia yn Gadeirydd IDAS, un o’r elusennau mwyaf sy’n arbenigo mewn cam-drin domestig yng ngogledd Lloegr. Ym mis Medi 2020, ymunodd â’r Bwrdd Parôl fel Aelod Annibynnol, ac ym mis Mawrth 2021 fe’i penodwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref yn Gadeirydd Annibynnol Bwrdd Cynghori’r Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr.
Christine Elliott
Christine, a ddaeth i derfyn ei thymor fel Cadeirydd Gweithredol y Coleg Plismona ar ddiwedd Rhagfyr 2020, oedd cyfarwyddwr annibynnol cyntaf y Coleg. Fe’i penodwyd yn 2015, ac mae’n uwch arweinydd profedig gyda phrofiad eang o gadeirio a bod yn swyddog anweithredol.
Mae Christine yn Gadeirydd hefyd ar y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, sy’n rheoleiddio pymtheg o broffesiynau; ac mae’n aelod annibynnol lleyg o Bwyllgor Cod y Golygyddion, sy’n adolygu a diwygio’r Cod a ddefnyddir gan holl reoleiddwyr y wasg yn y Deyrnas Unedig. Mae ei gyrfa yn cwmpasu’r sectorau cyhoeddus, preifat ac nid er elw. Un o’i phrif swyddi oedd fel Cyfarwyddwr y safle fu’n anhysbys mor hir ac a fu mewn dyled fawr, Bletchley Park, lle roedd codau yn cael eu datrys yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac mae wedi ei droi yn sefydliad blaengar sydd wedi dod yn enwog yn rhyngwladol a chael miliynau o fuddsoddiad seilwaith gan y llywodraeth a chyfraniadau preifat.
Mae Christine ar Fwrdd Cynghori Trybe.ID, llwyfan cadarnhau hunaniaeth a gallu digidol â’i phrif swyddfa yn Toronto, Canada. Mae’n cadeirio Bwrdd Cynghori Albeego Ltd, cwmni telegyfathrebu symudol Prydeinig sy’n darparu dyfeisiadau digidol gyda chysylltiadau sefydlog, diogel.
Deborah Bowman
Mae’r Athro Deborah Bowman yn Athro Emeritws Biofoeseg, Moeseg Clinigol a Chyfraith Feddygol ym Mhrifysgol St George, Llundain lle mae hefyd wedi bod yn Ddirprwy Bennaeth ers Tachwedd 2020, gyda chyfrifoldeb penodol am ddiwylliant sefydliadol, ymgysylltu cyhoeddus, ansawdd a phartneriaethau a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gan Deborah yn awr yrfa portffolio.
Mae ganddi nifer o swyddi anweithredol, cynghori ac fel ymddiriedolwr, gan gynnwys gwasanaethu ar Fyrddau’r Awdurdod Meinwe Dynol, Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl GIG De Orllewin Llundain a St George, Hosbis y Dywysoges Alice a’r Cyngor Osteopathi Cyffredinol. Mae’n eistedd fel cadeirydd panel ar gyfer Cyngor y Deyrnas Unedig ar Seicotherapi ac mae’n gadeirydd ar bwyllgorau moeseg clinigol, yn rhanbarthol a chenedlaethol. Mae Deborah yn parhau i weithio fel ymgynghorydd, anogwr, darlledwr ac ymchwilydd.
Rommel Moseley
Ym meysydd datblygu busnes, dylunio gwasanaeth a rheoli newid y mae profiad proffesiynol Rommel. Mae’n arbenigwr cydnabyddedig ym maes partneriaethau corfforaethol, llywodraeth ac elusen – ar ôl treulio 20 mlynedd yn negodi a chyflawni partneriaethau cymhleth, o fudd i bawb.
Ar hyn o bryd mae Rommel yn gyfarwyddwr ar Sefydliad Thomson Reuters, sy’n gweithio i hyrwyddo rhyddid y cyfryngau, economïau cynhwysol a hawliau dynol o gwmpas y byd.
Mae’n gyn Gyfarwyddwr ar Drinkaware lle datblygodd bartneriaeth ar draws y llywodraeth, gan gynnwys gyda’r Swyddfa Gartref, awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau, i leihau niwed i bobl ifanc yn yr economi yn ystod y nos.
Gwasanaethodd Rommel fel Is-gadeirydd Comisiwn Nosweithiol Llundain, wedi iddo gael ei benodi gan Faer Llundain i ymuno â’r comisiwn a rhoi cyngor annibynnol. Roedd yn cadeirio’r Grŵp Ymchwil a Data a roddodd yr holl wybodaeth a data i’r Comisiwn wneud argymhellion ar sail tystiolaeth.
Catherine Jervis
Mewn gyrfa o 30 o flynyddoedd yn y sectorau cyhoeddus, dielw a phreifat, mae Catherine wedi dal nifer o swyddi lefel bwrdd yn cynnwys rolau presennol fel Dirprwy Gadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol yn First Community Health and Care a Chyfarwyddwr Anweithredol ac SID gydag Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl GIG Barnet Enfield a Haringey. Yn ddiweddar fe ymunodd ag Achieving for Children, cwmni budd cymunedol, fel cyfarwyddwyr anweithredol annibynnol.
Cyn hyn, roedd Catherine yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes a Chynghorydd Strategol i brif weithredwr elusen addysg genedlaethol ac yn gyfarwyddwr i PricewaterhouseCoopers LLP ble arweiniodd aseiniadau mewn gwasanaethau plant ar draws addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Catherine yn gyfrifydd cymwysedig.
Bill Matthews
Dechreuodd Bill ei yrfa fel peiriannydd cyn symud ymlaen i rolau busnes a rheoli gweithrediadau gyda Motorola. Treuliodd bum mlynedd yn rhedeg busnesau newydd technoleg cyn cronni portffolio o rolau anweithredol yn cwmpasu cyfryngau, iechyd a chyfiawnder troseddol. Ar hyn o bryd, mae Bill yn gadeirydd cwmni sector cyhoeddus/preifat sy'n datblygu seilwaith ar gyfer y GIG ac awdurdodau lleol yng ngorllewin yr Alban. Mae hefyd yn cadeirio y Scottish Criminal Cases Review Commission, Ymddiriedolaeth Pensiwn y BBC ac yn Aelod Albanaidd Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Yn Beiriannydd Siartredig, mae gan Bill hefyd MBA a graddau anrhydedd yn y dyniaethau a seicoleg.
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro, gweithrediadau – Swydd wag
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Strategol a Chorfforaethol - Tom Whiting
Ymunodd Tom â'r IOPC yn Chwefror 2019 fel y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol.
Cyn hyn bu'n gweithio am 14 o flynyddoedd mewn Llywodraeth Leol ym Mwrdeistref Harrow yn Llundain, yn fwyaf diweddar fel eu Prif Weithredwr Dros Dro o Ionawr 2018. Roedd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau o 2013-18 ac yn Brif Weithredwr Cynorthwyol o 2008. Yn ystod y cyfnod hwn, fe arweiniodd Tom ar Raglen Welliant y Cyngor ble enillodd Harrow wobrau lluosog gan y diwydiant yn cynnwys y Cyngor gyda’r Gwelliant Mwyaf yn y wlad yn 2011 a gwobrau pellach ar gyfer digideiddio gwasanaeth cwsmeriaid a thrawsnewid TG yn 2016.
O 2010 nes iddo adael, roedd yn gyfrifol am raglenni arbedion a thrawsnewid y Cyngor mewn ymateb i leihad mewn cyllid i'r sector cyhoeddus. Cafodd y rhaglenni hyn gydnabyddiaeth nid yn unig am gyflawni effeithlonrwydd ac arbed arian, ond hefyd am wella gwasanaethau a gwella boddhad i breswylwyr. Yn 2013, fe arweiniodd foderneiddio ac ailstrwythuro’r swyddogaethau Cyllid, Adnoddau Dynol a Chaffael, datblygu gwasanaethau a rennir at gyfer Cyfreithiol a Chaffael a datblygu sianelau digidol a hunanwasanaeth i gwsmeriaid ar draws pob maes. Roedd y gwasanaethau a rennir hyn yn arloesol yn y sector gan arwain at greu’r gwasanaeth Cyfreithiol mewnol mwyaf yn y wlad. Fe arweiniodd ar ailosod contract TGCh allanol y Cyngor yn 2015 hefyd.
Fel Prif Weithredwr Dros Dro, fe arweiniodd ar gyfer Llywodraeth Leol Gorllewin Llundain ar wella integreiddio rhwng Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a goruchwylio’r trosiant i'r gwaith strwythur Uned Rheoli Sylfaenol newydd gyda’r Heddlu wrth uno tair Bwrdeistref. Trwy gydol ei gyfnod yn Harrow mae wedi gweithio'n agos gyda thrigolion lleol a’r gymuned leol a sefydliadau gwirfoddol fel llysgennad ar gyfer y Cyngor ac o ganlyniad mae wedi gwella dehongliad a hyder y cyhoedd. Fe arweiniodd ar gysylltiadau lobïo a rhanddeiliaid allanol hefyd ar gyfer Harrow ynghylch cyllid Llywodraeth Leol, a goruchwylio rhaglenni newydd i drawsnewid Gofal Cymdeithasol Oedolion.
Graddiodd Tom yn 1996 gan weithio yn Accenture am naw mlynedd yn eu gwaith Ynni a Gwasanaethau, yn arbenigo mewn uno a chaffael a dadreoleiddio marchnadoedd gwasanaethau ac ynni yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Dwyrain Canol.
Cyfarwyddwr, Strategaeth ac Effaith - Kathie Cashell
Ymunodd Kathie â'r sefydliad ar secondiad yn Hydref 2007 a'i phenodi'n barhaol yn Ebrill 2009. Fe arweiniodd ddatblygiad a gweithrediad fframwaith perfformio ar gyfer system gwynion yr heddlu, ac ers hynny mae wedi cynnal nifer o rolau yn yr IPCC. Mae Kathie wedi gweithio yn strategaeth a phrosiectau, cynllunio corfforaethol, polisi ac ymgysylltu ac, yn fwyaf diweddar, fel Pennaeth o Wasanaethau Dadansoddi.
Mae bellach yn arwain y gyfarwyddfa Strategaeth ac Effaith, i sicrhau ei bod yn fecanwaith effeithiol i sicrhau bod ein gwaith yn helpu gwella’r system gwynion, a phlismona yn gyffredinol, a hyder y cyhoedd ynddo. Mae'n sicrhau y cyfathrebir ein gwaith ac effaith yn effeithiol yn fewnol ac yn allanol.
Cyn ymuno, bu Kathie yn gweithio i'r Comisiwn Gofal Iechyd yn arwain nifer o dimau yn swyddogaeth gwynion y GIG. Fe weithiodd i ailgynllunio'r prosesau ar gyfer delio â chwynion, gan gyflwyno dulliau mwy effeithiol o weithio, a datblygu adrodd cyson ar berfformiad a dysgu ar draws y system. Mae gan Kathie hefyd brofiad fel rheolwr busnes yn y sector preifat yn creu busnes recriwtio rhyngwladol llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig, Awstralia a Chanada.
Cyfarwyddwr, Pobl - Liz Booth
Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Gogledd Orllewin Lloegr – Amanda Rowe
Ymunodd Amanda â'r IPCC yn 2004 fel ymchwilydd ac mae wedi symud trwy'r rhengoedd, gan weithio fel uwch ymchwilydd, Pennaeth Hyfforddiant ar gyfer Gweithrediadau, a Chyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Ymchwiliadau Mawr – cyn dechrau yn ei rôl bresennol.
Cyn yr IPCC, treuliodd Amanda 18 mlynedd gyda Chyllid a Thollau EM (HMRC bellach), yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn cynnwys fel ymchwilydd arbenigol ar ymchwiliadau graddfa fawr i fewnforio cyffuriau. Aeth ymlaen i weithio yn y swyddogaeth cudd-wybodaeth.
Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Gogledd Ddwyrain Lloegr – Miranda Biddle
Ymunodd Miranda â'r sefydliad yn 2018 o'r Bwrdd Parôl, ble roedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau, yn gyfrifol am gyflawniad gweithredol gwaith y bwrdd i gyflawni asesiadau risg annibynnol i bennu os gellir rhyddhau carcharorion yn ddiogel.
Cyn ymuno â'r Bwrdd Parôl, roedd Miranda yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Carchar EM Peterborough. Mae Miranda wedi gweithio yn y system cyfiawnder troseddol ers dros 25 mlynedd ar draws y gwasanaeth carchardai, gwasanaeth prawf, gwasanaethau seicolegol a chyffuriau ac yn y sectorau statudol, annibynnol a phreifat.
Cyfarwyddwr Cymru – Catrin Evans
Ymunodd Catrin â'r sefydliad yn 2018 o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ble ers bron i 31 o flynyddoedd mae wedi mwynhau gyrfa amrywiol fel eiriolwr erlyn ac uwch arweinydd.
Rôl ddiwethaf Catrin yn y CPS oedd Uwch Erlynydd y Goron Dosbarth gyda chyfrifoldeb am bob erlyniad troseddol yn Llys y Goron yn Ardal Cymru. Yn flaenorol mae wedi arwain uned gwaith achos cymhleth llwyddiannus yn erlyn nifer o achosion proffil uchel. Fel aelod o'r bwrdd strategol ardal, mae Catrin wedi cyfrannu i ysgogi gweithrediad cynnar gweithio'n ddigidol.
Mae Catrin yn angerddol ynghylch taclo masnachu mewn pobl ac mae wedi cyfrannu i'r gwaith a wnaed ar gytuno ar ymroddiadau erlynyddion. Mae hyn i sicrhau y bydd awdurdodau erlyn yn y Deyrnas Unedig yn cydweithio'n agos gyda'u partneriaid gorfodi'r gyfraith i amharu ar rwydweithiau, erlyn masnachwyr a diogelu hawliau dioddefwyr. Mae Catrin wedi ei chanmol ar gyfer y gwaith a wnaed yng Nghymru ar erlyniadau ar lafur dan orfod ac mae'n aelod o grŵp arweinyddiaeth gwrth gaethwasiaeth amlasiantaethol Cymru.
Mae Catrin yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn cyflawni ei gwaith yn Gymraeg a Saesneg.
Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Canolbarth Lloegr – Derrick Campbell
Cyn cychwyn yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol yn yr IOPC, roedd Derrick yn Gomisiynydd IPCC, wedi ymuno â'r sefydliad yn Ionawr 2013. Fel pob comisiynydd gweithredol, roedd Derrick yn gyfrifol am ddarparu trosolwg annibynnol o, a chymryd y cyfrifoldeb yn y pen draw am ein hymchwiliadau, gwaith achos a hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system gwynion.
Yn flaenorol roedd Derrick yn Brif Weithredwr y Cyngor Hawliau a Chydraddoldeb a chyn hynny yn Brif Swyddog Siambr Fasnach Sandwell. Mae ganddo hanes hir o weithio gyda chymunedau yn y Deyrnas Unedig, ac fe sylfaenodd a chadeirio nifer o grwpiau cynghori annibynnol, yn cynnwys Lleihau Trais Gangiau Birmingham 3. Roedd hefyd yn gadeirydd y Grŵp Cynghori Annibynnol Cenedlaethol, yn cynghori’r llywodraeth ar droseddau treisgar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac fe eisteddodd ar Grŵp Moeseg y Gronfa Ddata DNA genedlaethol o 2008-2013.
Cyfarwyddwr Rhanbarthol, De Ddwyrain Lloegr – Sarah Green
Roedd Sarah yn Ddirprwy Gadeirydd yr IPCC cyn cychwyn yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol i'r IOPC. Fel pob comisiynydd gweithredol, roedd Sarah yn gyfrifol am ddarparu trosolwg annibynnol o, a chymryd y cyfrifoldeb yn y pen draw am ein hymchwiliadau, gwaith achos a hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system gwynion.
Cyn ymuno â’r IPCC, roedd Sarah yn bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn Asiantaeth Ddatblygu Dwyrain Lloegr. Cyn hynny, roedd yn gyfreithiwr ardal ar gyfer rhanbarth dwyreiniol y Bwrdd Cymorth Cyfreithiol a bu ganddi nifer o rolau uwch reolwr yn genedlaethol yn y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.
Cyn symud i’r sector cyhoeddus, fe weithiodd fel cyfreithiwr i gwmni mawr o gyfreithwyr yn cynrychioli cleientiaid undebau llafur, ac arwain tîm cenedlaethol sy’n gyfrifol am erlyniadau troseddol preifat ar ran cyflogeion y sector cyhoeddus yr ymosodwyd arnynt yn y gwaith.
Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llundain (dros dro) - Sal Naseem
Ymunodd Sal â’r IPCC yn Ionawr 2015 fel Uwch Reolwr Asesu ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ein Pennaeth Uned Asesu. Mae Sal wedi arwain yr Uned Asesu yn llwyddiannus i welliant mewn perfformiad parhaus blwyddyn ar flwyddyn. Dan ei arweinyddiaeth, derbyniodd yr Uned Wobr Gwasanaeth Sifil mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad eithriadol i’r Proffesiwn Cyflawniad Gweithredol.
Cyn ymuno â’r sefydliad, bu Sal mewn swyddi rheoli mewn nifer o amgylcheddau rheoleiddiol gwahanol, gan gynnwys; Ofqual, Ombwdsmon y Gyfraith a’r Comisiwn Archwilio.
Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro yn y Gyfarwyddiaeth Ymchwiliadau Mawr (DMI) - Steve Noonan
Ymunodd Steve â ni yn 2013. Dechreuodd trwy arwain prosiect yn mesur ansawdd yn ein gwaith a arweiniodd at greu ein Huned Adolygu Ansawdd. Bu'n Arweinydd Hyfforddiant a Datblygiad am gyfnod byr, ac yna’n Rheolwr Gweithrediadau (OM) yn y Swyddfa yn Sale cyn ymgymryd â’r rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro.
Cyn yr IOPC, roedd Steve yn aelod o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi am 23 mlynedd. Gwasanaethodd ei yrfa yn yr Heddlu Milwrol Brenhinol/Cangen Ymchwiliadau Arbennig mewn nifer o leoliadau ledled y byd, yn cynnwys teithiau gweithredol yng Ngogledd Iwerddon ac Irac.
Ers dechrau gyda’r DMI, mae Steve wedi hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus ac arweinyddiaeth effeithiol gyda mwy o ffocws ar ddysgu.
Treuliau
Gweld yr adroddiad treuliau ar gyfer Cyfarwyddwyr a IOPC.
Cymeradwyir treuliau gan reolwyr llinell a’u craffu gan y tîm cyllid cyn y cânt eu talu neu eu had-dalu. I gael ei ad-dalu, rhaid i’r hawliad gydymffurfio â’n polisïau.
Archebir pob tocyn trên, awyren a gwestai drwy Redfern Travel Management, drwy fframweithiau Gwasanaethau Masnachol y Goron er mwyn cael y gwerth gorau am arian.
Mae ein cap ar gyfraddau gwestai yn Llundain a thu allan i Lundain yn unol â’r hyn a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref.
Mae gan bob swyddfa gwmni tacsi i’w ddefnyddio os oes achos busnes dros wneud hynny ac os nad oes math arall o drafnidiaeth ar gael. Gellir ad-dalu staff:
pan fydd gofyniad penodol, megis anabledd
pan nad oes dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael
pan mae’n gost effeithiol gan eu bod yn teithio gyda’i gilydd
pan fydd ganddynt fagiau trymion neu eitemau gwerthfawr i’w symud
pan fyddai’r daith fel arall yn creu pryder o ran diogelwch
pan fyddai’n arbed amser neu’n fwy effeithlon a bod hynny o bwysigrwydd arwyddocaol
Rhaid i staff gael derbynneb er mwyn cael eu had-dalu.
Rhoddian a Lletygarwch
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch (2016/17 – 2017/18)